
Ydy codi treth uwch ar dai haf yn gwneud gwahaniaeth?
Mae'r elusen 'Shelter' eisoes yn cefnogi codi treth uwch ar dai haf.
Mae'r Asiantaeth Cefn Gwlad Prydain hefyd yn ei gefnogi.
Mae'r Comisiwn Tai Gwledig Fforddiadwy wedi argymhell i'r Llywodraeth gynyddu trethi ar dai haf.
Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi galluogi cynghorau i gynyddu treth cyngor ar dai haf o 50% i 100%.
Ond nid yw hynny'n ddigon.
Mae'n rhaid i bobl sy'n
achosi niwed
i'n cymunedau wneud cyfraniad gwerthchweil
i ddatrys y problemau maen nhw wedi'u hachosi.
Un newid syml sydd angen, fel cam cyntaf - codi treth ar dai haf i 200%.
Beth sy'n cadw hyn rhag ddigwydd?
Ofn.
Ofn ein gwleidyddion.
Yr ofn y bydd pobl yn pleidleisio yn eu herbyn.
Ofn di-sail, ac ofn di-angen
Mae Shelter, yr Asiantaeth Cefn Gwlad a'r Comisiwn Tai Gwledig Fforddiadwy yn cefnogi cryfhau cymunedau yn y ffordd hon.
Nid yw pobl sy'n berchen ar dai haf yn pleidleisio'n lleol!
Ac mae pobl leol yn pleidleisio o blaid gwleidyddion sydd yn eu helpu nhw - ac, yn y pendraw, yn erbyn y rhai sydd â gormod o ofn i gwffio o'u plaid.
Mae'r amser wedi cyrraedd
Mae Cymuned yn galw ar eich Cyngor i godi treth cyngor o 200% ar dai haf. Dylai'r pres ychwanegol gael ei fuddsoddi mewn cynlluniau lleol ar gyfer tai fforddiadwy i bobl leol. Os ydy rhywun yn medru fforddio tŷ haf ac felly'n gwneud niwed i'n cymunedau, mae o neu hi'n medru fforddio cyfrannu mwy i brosiectau sydd yn helpu pobl leol.
Digon ar drin tai fel dim byd mwy nag un peth arall i fuddsoddi ynddyn nhw er mwyn gwneud elw.
Digon ar roi mwynhad pobl gefnog o flaen anghenion pobl leol.
Digon ar droi ein cefn gwlad yn fan chwarae.
Treth UWCH ar dai haf!