
Trwy gyfathrebu a chydweithio
Mae cynghorau yn ymateb i sylw. Hynny yw, unwaith bod digon o bobl yn galw am rywbeth yn ddigon uchel, mae cynghorau yn gorfod ei dderbyn - maen nhw i fod, wedi'r cyfan, i'n cynrychioli yn ddemocrataidd.
Ond nid oes gen bawb yr amser i godi llais, i fynd ar biced.
Dyna pam mae Cymuned yn newid y rheolau
Rydym yn cynnig rhestr hir o bethau syml, hawdd eu gwneud, sydd ddim yn cymryd bron dim o'ch amser chi.
Ac os ydych chi o ddifrif, mae gynnon ni nifer o ffyrdd i godi eich llais yn uwch fyth.
I glywed mwy, cysylltwch â ni
Y peth pwysicaf ydy i chi danysgrifio i'n cylchebost isod, am ddim, er mwyn sicrhau bod chi'n clywed am bob dim sy'n mynd ymlaen.
Wedyn, i glywed mwy am unrhyw un o'r syniadau uchod, anfonwch e-bost atom ni at cymuned[at]cymuned.org - byddwn yn falch i glywed ganddoch.
Ydych chi'n mynnu dyfodol i'n cymunedau?
Os ydych chi eisiau gweld Cymry lleol yn medru fforddio tai, ni fydd yn ddigon i chi obeithio am newid.
Mae'n rhaid i chi ei greu - a pha ffordd haws na thrwy gychwyn gan danysgrifio i e-bost wythnosol?
Ydych chi o ddifrif?
Treth UWCH ar dai haf!