TaiHaf.com
TaiHaf.com
Pam bod angen?

Mae ein cymunedau'n cael eu chwalu

Mae llefydd mor bell oddi wrth ei gilydd â Chaernarfon a Phorthcawl wedi gweld cynnydd mewn prisiau tai o 100% yn y tair mlynedd diwethaf YN UNIG.

Mae pris cyfartal tŷ newydd yng Nghymru (ym mis Mehefin, 2007) yn £213,350...

Byddai angen cyflog o £60,000 i fforddio mortgais ar dŷ felly.

Faint o bobl ydych chi'n nabod sy'n ennill tros £60,000?

Faint o bobl ydych chi'n nabod sy'n ennill tros £20,000, heb sôn am fwy?

Pwy sy'n medru fforddio'r tai newydd yma?

Dim athrawon Cymru.

Dim nyrsiau Cymru.

Dim dynion tân Cymru.

Dim heddweision Cymru, hyd yn oed.

Dydy'r CYMRY ddim yn medru fforddio'r prisiau hyn.

Dyna pam bod mwy a mwy o bobl yn symud i fewn i'n cymunedau, ac yn eu trin fel llefydd gwyliau - gwrthod dysgu iaith, gwrthod dod yn rhan o'r gymuned, gwrthod dangos parch.

Dyna pam mae ein pobl ifanc yn gadael i chwilio am waith a'r cyfle i brynu cartref yng Nghaerdydd neu yn Lloegr.

Llai o bobl ifanc yn arwain at lai o deuleuoedd ifanc yn arwain at lai o ysgolion bychain a llai o weithgareddau lleol a llai o gymuned.

Dyma sut mae lladd cymuned.

Dyma sut mae lladd diwylliant.

Dyma sut mae lladd gobaith.

RHAID rhoi stop ar hyn

Mae Cymuned yn galw ar eich Cyngor i godi treth cyngor o 200% ar dai haf. Dylai'r pres ychwanegol gael ei fuddsoddi mewn cynlluniau lleol ar gyfer tai fforddiadwy i bobl leol. Os ydy rhywun yn medru fforddio tŷ haf ac felly'n gwneud niwed i'n cymunedau, mae o neu hi'n medru fforddio cyfrannu mwy i brosiectau sydd yn helpu pobl leol.

Digon ar drin tai fel dim byd mwy nag un peth arall i fuddsoddi ynddyn nhw er mwyn gwneud elw.

Digon ar roi mwynhad pobl gefnog o flaen anghenion pobl leol.

Digon ar droi ein cefn gwlad yn fan chwarae.

Treth UWCH ar dai haf!

Os ydych chi'n cytuno, tanysgrifiwch i e-bost
wythnosol CYMUNED,
am ddim, er mwyn clywed
sut rydym yn mynnu i'ch Cyngor newid.
Enw cyntaf:
      E-bost: