
£122,950 am dŷ dau lofft?
£169,000 am dŷ teras tri lloft i deulu ifanc?
Mae'n sicr y byddwch chi'n nabod rhywun sydd yn methu cystadlu fel y mae pethau.
Beth ydy'r ateb?
Mae llawer o bethau gwahanol angen eu newid, ond mae rhai pethau CLIR a SYML y gellid eu newid RWAN HYN.
Perchnogion Tai Haf
Un o'r problemau gwaethaf ydy'r arfer sydd gan lawer iawn o bobl gefnog i brynu mwy o dai na sydd angen arnyn nhw.
Mae'r 'tai haf' yma yn cael eu defnyddio am ambell wythnos mewn blwyddyn, ac yn wag am weddill yr amser.
Pam bod angen mwy nag un cartref ar rywun?
Os ydy'r pobl yma gyda hynny o bres, SIAWNS na fedran nhw fforddio aros mewn gwely a brecwast, neu westy crand, a rhoi pres i fewn i'r economi lleol heb gymryd ein tai?
Mewn ardaloedd lle mae canran uchel o dai haf, mae rhwydweithiau naturiol cymdeithas yn dechrau torri i lawer - mae cyfleusterau yn cael eu cyfyngu (diffyg galw yn y gaeaf, maen nhw'n dweud), mae lefelau trosedd ac anhrefn yn cynyddu (neb i gadw llygad ar ddrws nesaf), ac mae prisiau'n cael eu gwthio'n uwch hyd nes bod pobl leol yn methu fforddio tai yn eu hardaloedd eu hunain.
Pam nad yw'r Cyngor yn sefyll i fyny ar ein rhan ni?
Mae niferoedd uchel o dai haf yn gwneud niwed i bobl leol.
Maen nhw'n cadw pobl ifanc lleol rhag fedru aros yn eu cymunedau.
Maen nhw'n chwalu ein cymunedau.
A'r cwbl er mwyn gwneud bywyd yn haws byth i bobl gefnog.
RHAID rhoi stop ar hyn
Mae Cymuned yn galw ar eich Cyngor i godi treth cyngor o 200% ar dai haf. Dylai'r pres ychwanegol gael ei fuddsoddi mewn cynlluniau lleol ar gyfer tai fforddiadwy i bobl leol. Os ydy rhywun yn medru fforddio tŷ haf ac felly'n gwneud niwed i'n cymunedau, mae o neu hi'n medru fforddio cyfrannu mwy i brosiectau sydd yn helpu pobl leol.
Digon ar drin tai fel dim byd mwy nag un peth arall i fuddsoddi ynddyn nhw er mwyn gwneud elw.
Digon ar roi mwynhad pobl gefnog o flaen anghenion pobl leol.
Digon ar droi ein cefn gwlad yn fan chwarae.
Treth UWCH ar dai haf!